Amdanaf

Bywgraffiad

Owain Llwyd

Mae Owain Llwyd (g.1984) yn gyfansoddwr, trefnydd a cherddofaethwr Cymreig amryddawn sy’n gweithio ar draws cerddoriaeth cyngherddau, ffilm a theledu gyda phortffolio eang o waith cyngerdd wedi’i gomisiynu a chydweithrediadau cyfoes.

Daeth Owain i amlygrwydd fel cyfansoddwr trwy ennill pob un o’r pump Tlws y Cerddor a Thlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru rhwng 2002 a 2005 – yr unig gyfansoddwr i ennill y clod hwn erioed.

Graddiodd Owain gyda gradd Baglor Dosbarth Cyntaf mewn Cerddoriaeth yn 2005 o Brifysgol Bangor lle bu’n astudio gyda’r cyfansoddwr yr Athro Pwyll ap Sion ac enillodd Wobr Syr John Morris Jones am y radd uchaf drwy’r Brifysgol gyfan yn dilyn datganiad gradd o Goncerto Piano Rhif 2 gan Rachmaninov gyda Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor. Yn dilyn hynny dyfarnwyd Doethuriaeth i Owain yn 2010 am ei ymchwil a’i bortffolio o gerddoriaeth ar gyfer delweddau symudol. Fel pianydd, mae Owain gyda Dip.ABRSM, ac mae wedi ennill Gwobr Offerynnol y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Rhwng 2010 a 2019, cynhaliodd Owain gymrodoriaeth addysgu a noddir gan Lywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Bangor, lle sefydlodd ddisgyblaethau newydd mewn cerddorfaeth ffilm a chyfansoddi ar gyfer ffilm a’r cyfryngau tra hefyd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gyfansoddwyr y neuadd gyngerdd trwy ei gyfarwyddyd mewn cyfansoddi acwstig. Owain hefyd a sefydlodd un o’r ychydig Gerddorfeydd Sesiwn Prifysgol yn y DU – y ‘Gerddorfa Sesiwn Bangor’ yn benodol ar gyfer cynnal profiadau recordio cerddorfaol dan amodau stiwdio.

Mae gwaith cyngerdd Owain wedi’i berfformio gan berfformwyr byd enwog gan gynnwys Cerddorfa’r WNO, Catrin Finch, Claire Jones, Band Pres Black Dyke, Iwan Llewelyn-Jones, O Duo, Côr Meibion Llangwm, a llawer mwy.

Mae Owain yn cydnabod yn ddiolchgar Gyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd a Chronfeydd y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth gydol ei yrfa.

Y tu hwnt i waith cyngerdd, mae gan Owain bortffolio eang o waith cerddoriaeth fasnachol sydd wedi’i ddarlledu mewn cynhyrchiadau teledu a ffilm ar ôl cael ei recordio mewn rhai o stiwdios recordio gorau’r byd gan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw’r byd. Mae Owain hefyd wedi cydweithio â’r brand dawns byd-eang Ministry of Sound, artistiaid rhyngwladol gan gynnwys Ricky Gervais, Gabrielle Aplin, Hannah Grace, Reuel Elijah, ac artistiaid poblogaidd Cymraeg gan gynnwys Swnami, Yr Ods, Casi a Mr Phormula.

Mae Owain yn gweithio’n llawn amser fel cyfansoddwr ac yn croesawu pob cyfle i gysylltu ar gyfer cydweithio a chomisiynu.

This website uses cookies that help the website to function and also to track how you interact with the website / Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis sy'n helpu'r wefan i weithredu a hefyd i olrhain sut rydych chi'n rhyngweithio gyda'r gwefan.