Y Gogarth

Cyfansoddwyd ‘Y Gogarth’ (2022) yn arbennig ar gyfer Taith Haf Cerddorfa WNO 2022.

Nodyn y cyfansoddwr:

Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith o olygfa'r cyfansoddwr dros Y Fenai, Eryri, Ynys Seiriol a’r Gogarth o safbwynt Biwmares, Ynys Môn. Lluniodd tirwedd Y Gogarth ysbrydoliaeth ar gyfer pob agwedd o’r darn o’r cysyniad hyd y cynnwys. Er i’r gwaith cyfansoddi dechrau ym Miwmares 2021, gorffennwyd y darn yn Nhrefynwy 2022.

Comisiynwyd gan:

Mae’r gwaith yn cynnwys 3 symudiad. 1. O’r awyr 2. O’r tir a 3. Y Geifr Kashmiri. Ceir darn agoriadol cyngerdd a darn clo cyngerdd ochr wrth ochr i’r symudiad craidd canolig sy’n galluogi perfformiad y darn mewn unrhyw gyfuniad yn ôl yr angen. Galluogodd defnydd o fap uchder Y Gogarth i greu harmoni a strwythur y darn wrth lunio yn syml yn erbyn graff amser ac allweddell piano. Yn wir, bu i bob crib yn amlinell tirwedd Y Gogarth hawlio pwynt strwythurol pwysig (megis bar dwbl neu newid amsernod) yn ogystal â gosod fframwaith i holl waith creadigol y darn.

Symudiad 1 - 'O'r awyr'

Gwefr siwrnai ddychmygol mewn car cebl uwchben Y Gogarth ydi’r syniad tŷ ôl ‘O’r awyr’. Daw’r ysbrydoliaeth yn ogystal gan nifer o weithgareddau antur yr ardal - o’r mynydd sgïo, gweithgareddau dŵr a seiclo hyd y siwrne tram ac ambell i lwybr cerdded. Mae unrhyw un sydd wedi cyrraedd copa’r Gogarth, wrth unrhyw ddull, yn deall pa mor uchel a gogoneddus yw’r profiad. Daw’r strwythur a chynnwys harmonig o ochr orthograffig chwith map uchder Y Gogarth. Y timpani sy’n cychwyn y daith llawn egni wrth gyhoeddi rhediadau byrlymus a phenderfynol y llinynnau (dylanwad y natur gylchol fferm Gwynt y Môr) a motifau pwerus yr offerynnau pres. Bu i’r offerynnau chwyth adleisio’r rhediadau llinynnol drwyddo draw. Peiriandy'r symudiad heb os yw’r llinynnau isel (cellos a basau dwbl). Cyrhaeddwn at olygfa ogoneddus gyda chyrn soniarus (b.25) sy’n ein harwain yn ôl i’r motifau penderfynol yr offerynnau pres, ond y tro hwn gyda chefnogaeth yr adran chwythbrennau (b. 33). Ar ôl adeiladwaith byr arall, y trombonau sy’n arwain adeiladwaith trawiadol (b. 43) hyd at uchafbwynt thema trwmped gorfoleddus ac yn y pen draw yn ôl i’r ffanfer agoriadol, ond yn uwch mewn traw y tro hwn (b. 75). Ar ôl ymgais arall i gyrraedd y copa, bu inni gyrraedd y diweddglo ychydig yn ddisymwth sy’n ein gadael ni i chwilio am ein hantur nesaf.

Symudiad 2 - 'O'r Tir'

Brasluniwyd rhan fwyaf o’r ail symudiad, ‘O’r Tir’ ar y meinciau picnic Y Gogarth wrth edrych dros Eglwys Sant Tudno, hyd y fferm gwynt ac ar adegau, man torheulo’r geifr. Daw’r strwythur a chynnwys harmonig o ochr orthograffig dde map uchder Y Gogarth. Agorir y symudiad gyda thema dyner a theimladwy sy’n esgyn yn y llinynnau. Mae’r agoriad atmosfferig hefyd yn cynnwys adlais o’r motifau pwerus yr adran bres o’r symudiad agoriadol, y tro hwn yn y cyrn (b. 16). Ceir unawd prin ar gyfer trombôn bas (b. 29) ac yna unawd corn (b. 33) sy’n rhagflaenu adran adeiladol llawn emosiwn yn y llinynnau. Pegwn yr adeiladwaith yma yw’r adran gymylog, wedi ei arwain gan y trwmped (b. 57). Gyda’r cyfuniad cerddorfaol o gyrn, cellos a chlarinetau mewn unsain ceir foment peryglus ar y cerrig calchfaen (b. 71). O’r ansicrwydd yma, daw cymal dirgel ar gyfer ffliwtiau a llinynnau uchel yn arwain tuag at bum cord F fwyaf gyda’r cyrn wedi mudo ynghyd a llinynnau tremolo harmonig anesmwyth mewn E leiaf (b. 95). Ar ôl adeiladwaith graddol cyrhaeddwn uchafbwynt emosiynol y symudiad yn y llinynnau. Daw’r symudiad i ben gyda datblygiad harmonig y brif thema, yn gyntaf yn yr adran bres, yna gyda’r chwythbrennau ac i gloi, yn y llinynnau.

Symudiad 3 - 'Y Geifr Kashmiri'

Y Geifr Kashmiri’. Dros y cyfnod clo cyntaf, cafodd y geifr sy’n byw ar Y Gogarth ychydig o sylw byd-eang wrth iddynt gerdded yn rhydd ac ymgartrefu ar strydoedd gwag Llandudno. Cyflwynir y geifr mewn natur ddigri a chyndyn yn y symudiad hwn. Daw’r strwythur a chynnwys harmonig o ochr gefn orthograffig map uchder Y Gogarth. Mae’r symudiad olaf yn agor gyda chwiban sy’n rhagflaenu datganiad ffanfer o’r alaw draddodiadol ‘Oes Gafr Eto?’. Clywir thema ddireidus a hyderus yn y llinynnau ac offerynnau pres (b. 33) sy’n cael ei ymyrryd gan ganon trwmpedau o’r motif agoriadol (b. 42). Wrth gydnabod ardal amaethyddol Y Gogarth, clywir canon arall ar yr alaw draddodiadol ‘Pant Corlan Yr Ŵyn’ yn y llinynnau (b. 50), tra bo’r chwythbrennau dal i adleisio’r motif agoriadol (b. 58). Canlyniad hyn ydi cacoffoni o fotifau yn yr offerynnau bas (b. 76) sy’n rhagflaenu’r chwiban ffermwr cyn y ffanfer olaf sy’n dod â’r symudiad i ben.

Detholiad awdio - demo cerddorfaol cyfrifiadurol

Ail Symudiad - 'O'r tir'

This website uses cookies that help the website to function and also to track how you interact with the website / Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis sy'n helpu'r wefan i weithredu a hefyd i olrhain sut rydych chi'n rhyngweithio gyda'r gwefan.